Mewn mathemateg, mae gofod hyperbolig yn ofod homogenaidd sydd a crymedd cyson negatif, ac yn yr achos yma, gyda 'chrymedd', golygir crymedd trychiadol (sectional curvature). Mae hyn yn dra gwahanol i geometreg Euclidaidd, oherwydd ei grymedd sero, ac yn wahanol hefyd i Geometreg hyperbolig sydd â chrymedd positif.
Pan gaiff ei ymgorffori i ofod Euclidig (o ddimensiwn uwch), mae pob pwynt o ofod hyperbolig yn bwynt cyfrwy. Nodwedd arall yw faint o ofod a gwmpesir gan yr n-bêl mewn n-gofod hyperbolig: mae'n cynyddu'n esbonyddol mewn perthynas â radiws y bêl ar gyfer radiysau mawr, yn hytrach nag yn bolynomaidd.